"Ni ellir datrys problemau trwy feddwl o fewn y fframwaith y crëwyd y problemau ynddynt." Albert Einstein
English

Amodau a Thelerau

Ymwrthodiad Cyfreithiol

Rydym wedi ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth yn y wefan hon yn gywir ac mor gyfredol ag y bo modd. Fodd bynnag, ni roddir unrhyw gyflwyniadau na gwarantau ynghylch cywirdeb, cyflawnder neu addasrwydd i ddiben y wybodaeth a gynhwysir yn y wefan hon ac ni fydd Greenfield Media Solutions Limited yn atebol i chi, mewn unrhyw amgylchiadau, am unrhyw golled o unrhyw fath sy'n codi o ddefnyddio'r wefan hon neu unrhyw wefan arall y cyfeirir ati neu y gellir troi ati trwy'r wefan hon.

Mae cynnwys a chynllun y wefan hon yn rhwym i hawlfraint y mae Greenfield Media Solutions Limited (© Greenfield Media Solutions Limited 2006) yn berchen arni neu sy'n cael ei defnyddio dan drwydded gan berchnogion hawlfraint trydydd parti. Mae'r holl hawliau ynghylch unrhyw farciau neu logos yn berchnogol ac yn eiddo i ni neu'n cael eu trwyddedu i ni. Cewch wneud cop.au o unrhyw ddeunydd yn y wefan hon at eich defnydd personol yn unig. Ni ddylech fel arall atgynhyrchu, dosbarthu, lawrlwytho, postio, storio, trosglwyddo, darlledu, addasu neu anfon yr holl dudalennau yn y wefan hon neu unrhyw ran ohonynt at unrhyw ddiben, neu ganiatáu neu gynorthwyo unrhyw un arall i wneud yr un peth mewn unrhyw ffordd.

Gall ein gwefan gynnwys cysylltau â gwefannau eraill. Ni allwn reoli ac ni fydd gennym unrhyw gyfrifoldeb neu atebolrwydd dros gynnwys gwefannau eraill sy'n gysylltiedig â'n gwefan ac rydych yn troi atynt ar eich menter eich hun.

Gwaherddir cysylltau electronig â'r wefan hon heb gael caniatâd ysgrifenedig yn gyntaf.

Wrth i chi ddefnyddio'r wefan hon, bernir eich bod yn derbyn yr amodau a thelerau uchod.

Polisi Preifatrwydd

Mae'n bolisi gennym i barchu preifatrwydd Defnyddwyr ein gwefan. Ni fyddwn yn datgelu eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti oni bai bod yn rhaid i ni wneud hynny yn unol â'r gyfraith neu fel arall ar ôl i chi awdurdodi hynny.

Dylunio gan Elfen
Cedwir pob hawl greenfield 2007

Ehangu Gorwelion