Mae cyfathrebu drwy ffonau symudol yn newid y ffordd y mae'r defnyddiwr yn rhyngweithio â negeseuon marchnata ac mae greenfield ar flaen y gad o ran datblygu cymwysiadau i'w dosbarthu i ffonau symudol drwy gyfrwng Bluetooth.
Dangosodd arolwg diweddar bod 41% o oedolion, a 60% o bobl rhwng 18 a 34 mlwydd oed yn y DU, wedi defnyddio eu ffonau i gael gafael ar gynnwys symudol o fewn y tri mis diwethaf ac mae twf cryf wedi dangos mai dyma'r llwyfan marchnata newydd mwyaf ers creu'r teledu.
Drwy ein gwasanaeth marchnata Bluetooth gallwn gyflwyno'ch neges farchnata bersonol i'r person cywir, ar yr adeg gywir, yn y lle cywir ac yn y cyd-destun cywir.
Mewn oes lle mae'r defnyddiwr yn deyrn, rydym yn cynnig gwasanaeth sy'n RHAD AC AM DDIM i'r defnyddiwr terfynol. Cânt brofiad unigryw, modern, cyffrous a phersonol a fydd yn cyfateb i alw cyson gynyddol defnyddwyr.
Ynghyd â'r neges farchnata bersonol, uniongyrchol sy'n cael ei dosbarthu i'r defnyddiwr, mae tystiolaeth wedi dangos bod Marchnata Feirol (lle bydd y defnyddiwr yn trosglwyddo'r cynnwys i ffrindiau a theulu drwy ei declyn ei hun), yn golygu i bob neges sy'n cael ei hanfon, y bydd deg neges arall yn debygol o gael eu creu gan y defnyddiwr wrth anfon ymlaen y negeseuon marchnata a dderbyniwyd.
Bydd y 'cyffro' sy'n cael ei greu drwy ffeiliau fideo, animeiddiadau, arbedwyr sgrin, delweddau cefndir, gêmau, cerddoriaeth, canlyniadau a gwybodaeth gyffredinol sy'n gyfoethog eu cynnwys a anfonir AM DDIM i'r defnyddwyr, yn helpu i gyflwyno eich neges farchnata bersonol, ac yn bwysicach, bydd yn helpu i chi adeiladu'r berthynas hirdymor honno o ymddiriedaeth a theyrngarwch gyda'ch sylfaen defnyddwyr.
Cyflwyniad greenfield mobile (yn eisiau Macromedia Flash plugin)
Dylunio gan Elfen
Cedwir pob hawl greenfield 2007