"Mae rhagoriaeth yn y manylion. Rhowch sylw i'r manylion ac fe ddaw rhagoriaeth."
Perry Paxton
English

Rheoli Digwyddiadau

 


Gall rhaglen a gynlluniwyd yn dda o ddigwyddiadau, cynadleddau ac arddangosiadau fod yn elfen werthfawr o gymysgedd hyrwyddo cwmni.

Rhyngddynt, mae gan ein tîm cyfunol o staff mewnol a sefydliadau partner dethol yr arbenigedd, yr adnoddau, y syniadau creadigol a'r sgiliau arbenigol mewn cynllunio a rheoli digwyddiadau a chynadleddau i wireddu hyn. O greu syniadau i reoli iechyd a diogelwch, gofelir am y cwbl mewn modd proffesiynol.

O gefnlen syml i set bwrpasol, cynllunio ac adeiladu â goleuo, a chyflwyniad Powerpoint, awtociw a hyd yn oed systemau ymateb cynulleidfa a golygu fideo ac animeiddio - gall ein tîm o arbenigwyr wneud y cwbl.

Gallwn gynorthwyo â chodi nawdd ar gyfer digwyddiad, a dyfeisio a dod o hyd i nwyddau corfforaethol.

Byddwn bob amser am gynhyrchu'r elfen honno o 'syfrdan' i greu digwyddiad sy'n sefyll allan. Nid ydym byth yn anghofio bod cwsmeriaid heddiw yn mynnu cael profiad o'r radd flaenaf a dyma pam mae cleientiaid yn gofyn am fwy a mwy o wasanaethau rhyngweithiol i gynnig profiad i gyfranogwyr sy'n fwy cyfoethog a gwerthfawr nag erioed o'r blaen. Eto, mae gan ein tîm mewnol a'n sefydliadau partner y sgiliau a'r doniau angenrheidiol i wireddu hyn.

Dylunio gan Elfen
Cedwir pob hawl greenfield 2007

Ehangu Gorwelion