Mae greenfield yn gweithio gyda chleientiaid i nodi a manteisio ar gyfleoedd sy'n manteisio'n llawn ar werth eu hasedau, gan sicrhau eu bod yn dwyn y gwerth uchaf ag y bo modd i'w busnesau.
Trwy feithrin dealltwriaeth drylwyr o anghenion busnes ein cleientiaid, y ffactorau sy'n eu cyfyngu a'u dyheadau o ran twf, gall greenfield ddarparu gwasanaethau ymgynghori unigryw ac wedi'u teilwra i Blatfformau, Darlledwyr a Chynhyrchwyr Annibynnol yn y sector Darlledu.
Mae gan greenfield rwydwaith helaeth o gysylltiadau y gall fanteisio arnynt i ychwanegu at a gwella'r gwasanaeth ymgynghori y gall greenfield ei ddarparu i'w gleientiaid. Mae manteision gweithio mewn grwp busnes lle y mae modd rhannu deallusrwydd am y farchnad, cysylltiadau busnes ac arbenigedd ym maes rheoli, yn werthfawr dros ben i gleientiaid sy'n dymuno ehangu eu gorwelion busnes eu hunain y tu hwnt i'r cyffredin a'r arferol.
Rydym yn nodi ac yn gwerthuso cyfleoedd i weithredwyr platfformau a darlledwyr sy'n dymuno lansio gwasanaethau newydd. Gallai hyn olygu cynnal asesiad o'r tirlun digidol a gwerthusiad o'r potensial i bob platfform sicrhau twf gydag amser; y cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth ac asesiad o'r costau a'r ffrydiau incwm tebygol sy'n gysylltiedig â'r platfform hwnnw. Mae'n profiad yn cynnwys:
Trwy asesu gyda rheolwyr cwmni, rydym yn nodi cyfleoedd i sicrhau twf a meysydd posibl y gellir ehangu, ailgyfeirio neu ad-drefnu ynddynt. Gallai hyn gynnwys asesu dangosyddion perfformiad allweddol y busnes, ei gyfeiriad o ran twf a chyfleoedd i sicrhau gwerth o asedau a hawliau y mae'r cwmni yn berchen arnynt yn barod. Mae'n profiad yn cynnwys:
Rydym yn adolygu ac yn asesu rhesymoldeb a chywirdeb cynlluniau busnes a modelau ariannol ar ran platfformau, darlledwyr a darlledwyr annibynnol sy'n ceisio sicrhau cyllid, buddsoddiad neu ehangu i fentrau newydd. Mae'n profiad yn cynnwys:
Rydym yn adolygu, yn asesu ac yn gweithio ar ran darlledwyr annibynnol sy'n ceisio manteisio'n llawn ar werth eu heiddo deallusol trwy sicrhau cyllid i'w prosiectau yn y DU ac mewn gwledydd tramor. Rydym hefyd yn mentora cynhyrchwyr annibynnol ac yn ôl yr angen, eu cyflwyno i'r marchnadoedd rhyngwladol. Mae'n profiad yn cynnwys
Dylunio gan Elfen
Cedwir pob hawl greenfield 2007