"Fel arfer, daw llwyddiant i'r rhai sy'n rhy brysur i chwilio amdano."
Henry David Throeau
English

Gwasanaethau Marchnata
a Gwerthu Hysbysebu

Yr hyn a gynigiwn:

  • Cyngor arbenigol annibynnol i berchnogion cyfryngau o ran marchnata a gwerthu
  • Ymchwil y farchnad gan gynnwys darparu adroddiadau am y farchnad a dadansoddi cystadleuwyr
  • Y cyfle i fanteisio ar yr holl asiantaethau prynu cenedlaethol trwy ein partner, Optimal Media Sales, asiantaeth werthu ar gyfer y cyfryngau yn Llundain

Prynu a Chynllunio yn y Cyfryngau

Cyngor arbenigol annibynnol i sefydliadau o bob math sy'n cynllunio ymgyrch farchnata, gan gynnwys corfforaethau, sefydliadau dielw, y sector cyhoeddus a busnesau bach a chanolig. Mae'n cynnwys ymgyrchoedd teledu a radio, argraffu, y wasg, yn yr awyr agored ac ymatebion uniongyrchol. Gallwn deilwra ymgyrch sy'n cyrraedd eich marchnad darged yn y ffordd fwyaf effeithiol o fewn y gyllideb sydd ar gael. Yn ogystal, gallwn brynu'r cyfrwng i chi a thrafod y cynigion gorau posibl ar eich rhan.

Archwiliad Marchnata

Dadansoddiad manwl o'ch gweithgarwch marchnata presennol, ynghyd ag argymhellion ynghylch sut i ehangu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd eich gwaith marchnata.

Dylunio gan Elfen
Cedwir pob hawl greenfield 2007

Ehangu Gorwelion