Cynhyrchu
Mae gennym dîm cynhyrchu talentog ac ymroddedig sy’n cynhyrchu hysbysebion teledu, animeiddio, podlediadau a fideos corfforaethol o safon uchel, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae ein profiadau wedi dangos bod y canlyniadau gorau yn cael eu cyflawni pan fydd y cwsmer a’r asiantaeth yn cydweithio, a dyna pam ein bod ni yn greenfield yn annog ein cwsmeriaid i fod yn rhan o bob cam o’r broses gynhyrchu.
Gallwn sicrhau ein cwsmeriaid ein bod yn ymgymryd â phob prosiect gyda brwdfrydedd a phroffesiynoldeb ac y bydd pob ymgyrch y byddwn yn ei chynhyrchu yn cyrraedd y gwerthoedd cynhyrchu uchaf, beth bynnag fo’r gyllideb.
Yn ychwanegol at ein cyfleusterau golygu mewnol mae gennym hefyd stiwdio effeithiau ac animeiddio sy’n gallu cynhyrchu animeiddio 2D, 2D Digidol ac animeiddio cyfrifiadurol.
I gael rhagor o wybodaeth yngl?n â’n gallu cynhyrchu cysylltwch â: bethan@greenfieldmedia.com
