Cyfryngau Print
Mae gan ein tîm o gynllunwyr mewnol yr arbenigedd a’r dychymyg i ddarparu pob elfen o gynllun print, yn cynnwys: brandio, taflenni gwybodaeth, taflenni, deunydd pacio a graffeg ar gyfer y we, fideo, teledu a deunydd arddangosfa.
Yn greenfield rydym yn deall bod pob prosiect yn wahanol ac rydym yn cymryd amser i ddod i ddeall busnes ein cwsmeriaid er mwyn sicrhau ein bod yn darparu atebion effeithiol a chreadigol ar amser ac yn unol â’r gyllideb.
Sgroliwch drwy rai esiamplau diweddar o’n gwaith neu i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: laura@greenfieldmedia.com









