Wyn yw Cyfarwyddwr Rheoli greenfield, a sefydlwyd ganddo ym mis Chwefror 2005. Gorchwyl greenfield yw darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf ac atebion arloesol i gleientiaid, sy'n amrywio o frandiau byd-eang i fusnesau bach a chanolig.
Mae Wyn yn Gyfrifydd Siartredig sy'n meddu ar graffter ariannol cryf a phrofiad helaeth o weithio i sefydliadau o'r radd flaenaf. Ef yw cyn Gyfarwyddwr Rheoli S4C Rhyngwladol, ar ôl cael ei benodi yn Gyfarwyddwr Rheoli cyntaf ei gwmnïau masnachol; rôl a oedd yn golygu bod yn rhaid iddo fod yn aelod o Dîm Rheoli S4C ac yn gynrychiolydd gweithredol yn Awdurdod S4C hefyd.
Fel Cyfarwyddwr Rheoli S4C, mae gan Wyn brofiad o ariannu nifer fawr o gydgynhyrchiadau rhyngwladol ar hyd a lled y byd a llofnodi cytundebau cydgynhychu rhyngwladol mewn rhanbarthau pwysig.
Yn ogystal, mae Wyn yn gyn Gyfarwyddwr CEO ac SDN, un o'r 6 Chwmni sy'n rhan o Freeview. Aeth Wyn ati i drawsnewid y busnes o un a oedd yn gwneud colled yn 2002, i un a oedd yn gwneud elw yn 2004, gan arwain at werthu'r cwmni i ITV ym mis Ebrill 2005 am £135m (y 7fed dêl fwyaf ym maes y Cyfryngau yn y DU yn 2005 - ffynhonnell: Broadcast.)
Cyn hyn, treuliodd Wyn 4 blynedd yn gweithio yn y diwydiant hysbysebu fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid CIA a dadansoddwr ariannol yng nghwmni Leo Burnett. Cyn hyn, treuliodd Wyn 10 mlynedd yn y proffesiwn cyfrifyddu yn gweithio i Price Waterhouse a Grant Thornton.
Dylunio gan Elfen
Cedwir pob hawl greenfield 2007