Mae Phil yn Gyfrifydd Rheoli Siartredig gyda phedair mlynedd ar bymtheg o brofiad yn y cyfryngau. Roedd e’n gyn-Gyfarwyddwr Cyllid S4C Rhyngwladol, lle roedd e hefyd yn gyfrifol am incwm gwerthiant amser darlledu a nawdd, cytundebau cyd-gynhyrchu rhyngwladol a rheoli hawliau gan gynnwys trafod cytundebau gwerthu gyda rhai o brif gwmnïau y diwydiant megis Disney, Universal, Polygram a BBC Worldwide.
Mae Phil yn un o gyfarwyddwyr gwreiddiol greenfield ac wedi
bod yn Gyfarwyddwr Masnachol ers dechrau’r busnes yn 2005.
Mae Phil hefyd yn sefyll ar Gyngor CIMA, y corff cyfrifion byd eang gyda 164,000 o aelodau a myfyrwyr ac mae’n aelod o’r Pwyllgor Marchnata sy’n gyfrifol am gyfathrebu corfforaethol, marchnata a brandio.
2005 – presennol Cyfarwyddwr Masnachol. greenfield Media Solutions
1997 - 2005 Cyfarwyddwr Cyllid yn S4C Rhyngwladol
1990 - 1997 Cyfrifydd Grwp a Rheolwr Amlgyfrwng Mentrau S4C
1988 - 1990 Cyfrifydd Rheoli, S4C
Dylunio gan Elfen
Cedwir pob hawl greenfield 2007