"Rhywun sy'n gallu gwneud eu gorau pan na fyddant yn teimlo fel gwneud hynny yn arbennig, yw rhywun proffesiynol." Alistair Cooke
English

Huw Potter

Rheolwr Gwerthiant Hysbysebu a Gwasanaethau Marchnata

Ymunodd Huw â greenfield pan sefydlwyd y cwmni ac mae'n gyfrifol am ddatblygu elfen farchnata y busnes. Cyn hynny, bu Huw yn Rheolwr Gwasanaethau Cleientiaid yn S4C Rhyngwladol, lle'r oedd ei gyfrifoldebau yn cynnwys marchnata'r gweithrediad gwerthu amser darlledu, cynllunio a phrynu cyfryngau; a gwerthu yn y farchnad leol (Cymru). O ganlyniad, mae gan Huw wybodaeth helaeth o'r farchnad gyfryngau yng Nghymru, ar draws teledu, radio, argraffu a'r wasg.

Cyn ymuno ag S4CI, bu Huw yn gweithio yn adrannau hysbysebu grwpiau papur newydd The Observer, Express Newspapers, yn ogystal â chwmni cyhoeddi cylchgronau EMAP am nifer o flynyddoedd.

Dylunio gan Elfen
Cedwir pob hawl greenfield 2007

Ehangu Gorwelion