Newyddion
DAU GWMNI’N UNO I GREU GRŴP CYFATHREBU MAWR YNG NGHYMRU
Mae dau gwmni blaenllaw yn y meysydd digwyddiadau a chyfathrebu marchnata integredig yng Nghymru - Push4 Group a greenfield media - yn uno i greu sefydliad gwerth dros £3.5m a fydd yn cynnig ystod o wasanaethau cyfathrebu creadigol cynhwysfawr ac unigryw i Gymru a’r byd.

Mae Push4 a greenfield yn gwmnïau Cymreig llwyddiannus sydd wedi ennill nifer o wobrau. Dros y degawd diwethaf maent wedi bod yn darparu gwasanaethau yn y meysydd digwyddiadau a chyfathrebu marchnata i’r sector cyhoeddus a’r gymuned fusnes yng Nghymru, yn ogystal ag i gwmnïau o’r radd flaenaf leded y DU ac mewn marchnadoedd rhyngwladol. Mae’r ddau gwmni’n debyg o ran trosiant, maint a strwythur ac yn cynnig gwasanaethau sydd, er yn wahanol, yn ategu ei gilydd. Bydd y cwmni newydd yn cynnig popeth o reoli digwyddiadau i gynyrchiadau teledu, o hyrwyddo cerddoriaeth i ddylunio clywedol, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata symudol.
Sefydlwyd greenfield gan Wyn Innes bum mlynedd yn ôl, ac ef fydd yn arwain y cwmni newydd yn rhinwedd ei swydd fel prif weithredwr. Meddai Wyn: “Fel dau gwmni gwahanol, rydym eisoes wedi cyfuno ein sgiliau yn llwyddiannus ac yn effeithiol ar nifer o brosiectau. Mae’r ddau gwmni mewn sefyllfa dda ac wedi datblygu’n gyflym mewn byr amser. Mae gan y ddau ohonom enw da iawn yn ein meysydd arbenigol, ond teimlwn y gallwn gynnig mwy fel un cwmni na thrwy weithredu fel dau gwmni ar wahân. Drwy uno gallwn greu’r màs critigol i ddod yn gwmni o bwys yng Nghymru sy’n cynnig cymysgedd o wasanaethau integredig, ynghyd â’r gallu i gystadlu mewn marchnadoedd rhyngwladol.”
Mae greenfield yn ymfalchïo yn ei bortffolio o gleientiaid sy’n cynnwys S4C, Cymdeithas Adeiladu Principality, SWALEC, Western Power Distribution a Guinness World Records. Mae’n arbenigo mewn gwasanaethau yn y meysydd clywedol, creadigol, dylunio, brandio, ymgynghori ar gyfer busnesau, cynllunio a phrynu ar gyfer y cyfryngau, radio, ar-lein a deunydd wedi’i argraffu, ynghyd â marchnata symudol a marchnata drwy rwydweithiau cymdeithasol - meysydd sy’n prysur ehangu.
Sefydlwyd Push4 Group saith mlynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi datblygu enw da ar gyfer creu a chynnal digwyddiadau o bob maint, o wyliau cerddorol, fel hyrwyddwr cerddoriaeth annibynnol mwyaf Cymru, i deithiau rhyngwladol ar gyfer y byd-enwog Sadler’s Wells, o arddangosiadau bwyd a gwin ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddigwyddiadau corfforaethol ar gyfer grŵp o gwmnïau Johnson & Johnson, Corus a confused.com.
Roedd Push4 yn gyfrifol am drefnu Cyngerdd Tsunami Relief yn Stadiwm y Mileniwm yn 2005, a’r haf hwn yn unig bydd yn llwyfannu cyngherddau ar gyfer JLS, Will Young ac Al Green yng Nghymru, yn ogystal â rheoli’r digwyddiad byd-eang ‘Croeso i Gymru/Welcome to Wales’ yn y Stadiwm i nodi dechrau cystadleuaeth Cwpan Ryder. Mae’r grŵp hefyd yn ymfalchïo yn y ffaith bod ganddo adrannau clywedol, cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau newydd gyda’r holl offer angenrheidiol.
Rheolwr gyfarwyddwr presennol Push4 Group, Matthew Wordley, fydd cyfarwyddwr gweithrediadau’r busnes newydd. Meddai: “Mae gan Push4 a greenfield ideoleg ac uchelgais debyg, a dyhead i weld Cymru’n cael ei gwasanaethu’n dda gan gwmni digwyddiadau a chyfathrebu sy’n ddigon mawr ac sy’n meddu ar y sgiliau a’r adnoddau i gynnig y gwasanaethau gorau yn ei faes, ac i allforio ein gwasanaethau yn rhyngwladol fel cwmni Cymreig balch.”
Yn ystod y misoedd nesaf bydd y busnes newydd yn sefydlu brand ac yn symud y tîm newydd o 25 i swyddfeydd canolog yn ardal Caerdydd. Bydd busnes yn parhau yn ôl yr arfer, ac mae llwyth o waith eisoes ar y gweill, ar gyfer cleientiaid o’r sector preifat yn ogystal â’r sector cyhoeddus.
Gwybodaeth i’r wasg: tim@push4.com ac ar 07939 571 553
First Previous 1 2 Next Last