"Pan fydd ci yn brathu dyn, dydy hynny ddim yn newyddion, am ei fod yn digwydd mor aml ond pan fydd dyn yn brathu ci, mae hynny yn newyddion"
John B. Bogart
English

Newyddion

Calon WenCalon Wen

Cwblhaodd greenfield hysbyseb teledu 20” ar gyfer y cynhyrchwyr llaeth organig sy’n garedig i’r amgylchedd ‘Calon Wen’.

Cynhyrchwyd yr hysbyseb , lle gwelir buwch animeiddiedig sydd, gyda ychydig o gymorth gan adar cymwynasgar, yn dangos pa mor hawdd yw hi i ddefnyddio Eco-pak Calon Wen.

Amserwyd yr ymgyrch i gyd-fynd a lawnsiad yr Eco-pak, sydd i’w ar gael mewn sawl siop annibynol ynghyd a siopau Tesco a Waitrose ar draws Cymru.

Darlledir yr hysbyseb ar S4C ac ITV Wales dros yr wythnosau i ddod, I weld yr hysbyseb cliciwch yma.

Guiness World RecordsGuinness World Records

Am yr ail flwyddyn olynnol, bu greenfield yn llwyddiannus yn eu cynnig i gynhyrchu hysbyseb Guinness World Records.  Caiff yr hysbyseb ei ffilmio yn yr wythnosau nesaf a bydd yn cael ei ddarlledu ar y teledu a mewn sinemau ar draws y byd ym mis Tachwedd … Cadwch lygad i glywed y newyddion diweddaraf ar yr ymgyrch!


uog Prifysgol Morgannwg

Mae greenfield newydd gwblhau fersiwn DVD o Adroddiad Blynyddol 2007 y Brifysgol i gymryd lle y fersiwn copi caled traddodiadol.  Yn ogystal a hyn, mae greenfield yn y broses o gynhyrchu DVD Prospectws y Brifysgol i’w ddosbarthu fel rhan o’u strategaeth farchnata i ddenu myfyrwyr yn y DU a thramor i’r Brifysgol.


Oybikes OY Bikes – Ar Dy Feic!

Mae greenfield yn cyd-weithio gyda chleiant newydd i ddarparu systemau llogi beiciau ar strydoedd ar draws y DU.  Gellir rhentu’r beiciau drwy’ch ffon symudol ac mae’r hanner awr gyntaf yn rhad ac am ddim.  Os oes gennych ddiddordeb mewn hysbysebu ar OY Bikes, cysylltwch a ni am fwy o wybodaeth.


OybikesEnvirowise

Cynhyrchodd greenfield ‘Vodcast’ ar ran Envirowise i helpu cwmniau i leihau eu effaith ar yr amgylchedd.  Pwrpas y ‘Vodcast’ oedd i esbonio sut y gallai defnyddio’r rhaglen ryngweithiol ar wefan Envirowise danlinellu ffyrdd o arbed arian a’r amgylchedd.

weld yr hysbyseb, cliciwch yma.


Staff Newydd!

Mae greenfield yn falch i gyhoeddi 3 dyfodiad newydd i’r tim presenol.  Mae Lucie Prescott yn ymuno a’r Adran Gynhyrchu fel Cynhyrchydd.  Mae Lucie yn Gyfarwyddwr / Cynhyrchydd profiadol sydd wedi gweithio i Sky, Virgin Media a’r  BBC ymysg eraill.
Mae Laura Harrison yn ymuno a ni  fel Rheolwr Cyfrif o Gyhoeddwyr Conde Nast, lle bu hi’n gyfrifol am reoli portfolio o gleientiaid gan gynnwys Rolex, HSBC a Landrover.

Mae Ynyr Ifan hefyd yn ymuno a’r tim Cynhyrchu.  Mae Ynyr yn dalentog tu hwnt mewn cynhyrchu cysyniadau creadigol ar gyfer amrywiaeth o ymgyrchoedd.

barcelona Greenfield ym Marcelona!

Mae greenfield  newydd ddychwelyd o daith lwyddianus i Gynhadledd 2008 World GSMA ym Marselona sy’n arddangos pob dim sy’n newydd yn y diwydiant ffonau symudol. Mae greenfield  yn arbenigo yn y maes machnata drwy ffonau symudol yn enwedig gyda marchnata agosrwydd Bluetooth.  Bu greenfield  yn gweld, defnyddio a thrafod y dechnoleg a’r datblygiadau diweddaraf yn y maes oddiwrth system GSM eco’r byd.


bt BT

Mae greenfield wedi cwblhau ymgyrch hysbysebu aml-gyfryngol integredig a chynhyrchu i hyrwyddo Gwasanaeth Ymholiadau Cymraeg BT 118 404. 

Hyrwyddwyd yr ymgyrch dros sawl platform aml-gyfryngol gan gynnwys Teledu, Cylchgronau, marchnata Awyr Agored a Radio.

Yn yr hysbysebion gwelir y gyflwynwraig boblogaidd a wyneb BT yng Nghymru, Nia Parry, mewn amryw argyfwng gyda Gwasanaeth Ymholiadau Gymraeg BT 118 404 yn eu hachub.

Seren yr hysbysebion oedd y gyflwynwraig boblogaidd Nia Parry, ac fe’u darganfuwyd hi mewn sefyllfaoedd amrywiol, lle

 

‘’Roedd hi’n hynod o bwysig i BT sicrhau gwasanaeth cwmni oedd ag arbenigedd mewn syniadau creadigol a chynhyrchu ar gyfer ein hymgyrch hysbysebu Gwasanaeth Ymholiadau BT 118 404.  greenfield oedd y dewis amlwg, mae eu sgiliau Creadigol, Cynhyrchu a Pherthynas Cleiant heb eu ail.  Cynhyrchwyd cyfres o hysbysebion teledu o’r radd uchaf a atebodd y briff i’r dim, gan adlewyrchu  dealltwriaeth greenfield o’r brand a’r briff. Ni fyddwn yn oedi i argymell greenfield nac i’w defnyddio eto yn y dyfodol.’’
Alun Thomas
Rheolwr Polisi a Strategaeth Iaith Gymraeg BT

Gwelwyd cynnydd o bron I 12% yn nifer y galwadau I 118 404 ers dechrau’r ymgyrch.

firebrake Atal Tân Cymru

Roedd maswr Cymru, James Hook, ar dân yn ystod Y Gamp Lawn eleni – a nawr mae’n cefnogi ymgyrch genedlaethol wahanol, drwy annog  ieuenctid i beidio llosgi cefn gwlad Cymru – bydd James yn Ysgol Gymraeg Bryn Tawe yn Abertawe rhwng 1.30pm a 3 pm Dydd Mercher Ebrill 30fed i lawnsio’r ymgyrch yn y Canolbarth ar Grollewin.

Dyma’r digwyddiad diweddara yn ymgyrch genedlaethol Fflach Tân Atal Tanau Glaswellt 2008 i godi ymwybyddiaeth o beryglon llosgi bwriadol yng nghefn gwlad mewn cymunedau trwy’r Wlad. Mae dros 7,000 o danau gwair bob blwyddyn sy’n peryglu bywydau trigolion a chriwiau tân ac yn eu cadw rhag mynychu achosion brys go iawn.

Bydd James Hook yn annog pobol ifanc i ystyried a meddwl am effeithiau tanau glaswellt. Gyda chefnogaeth greenfield media  byddant yn danfon negeseuon animeiddedig rhad ac am ddim drwy Bluetooth i ffonau symudol yn yr ardal er mwyn esbonio’r peryglon a risg cynhenid.

 

 

m

Caffaeliad newydd i greenfield ym maes animeiddio

Mae greenfield media, y cwmni aml-gyfrwng arbenigol o Gaerdydd, wedi cyhoeddi ei fod wedi caffael moonoo productions Ltd, y cwmni animeiddio a dylunio digidol, gan ychwanegu elfen arall eto i’w bortffolio cyfryngau mewnol sy’n ehangu.

Sefydlwyd moonoo yn 2005 gan Andrew Minton a Nick Price, ill dau yn ddylunwyr profiadol ac yn meddu ar arbenigedd penodol ym maes animeiddio. Ers ei sefydlu, mae moonoo wedi gweithio ar nifer o gomisiynau rhwydwaith, gyda’r un mwyaf diweddar ar gyfer Frankeinstein’s Cat ar sianel CBeebies. Yn ddiweddar, gwelwyd y cwmni yn ehangu ymhellach i gynnig animeiddio Delweddaeth a Gynhyrchir gan Gyfrifiadur (CGI), a fydd yn ei alluogi i ddatblygu effeithiau arbennig ar gyfer rhaglenni teledu a hysbysebion gyda cyllidebau mawr. Yn ogystal, mae moonoo a greenfield wedi bod yn cydweithio’n agos i ddatblygu eu gwasanaethau marchnata symudol a feiral ar gyfer cleientiaid megis S4C, BBC, LlCC ac UWIC.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr greenfield, Wyn Innes “Rydym yn teimlo’n hynod o gyffrous fod moonoo yn ymuno â ni, a’n bod yn gallu ehangu’r gwasanaethau y gallwn eu cynnig i’n cwsmeriaid. Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos gyda moonoo dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac roeddem yn teimlo bod eu gwasanaethau yn cyd-fynd yn berffaith gyda’n gwasanaethau ni, ac maent yn ychwanegiad i’w groesawu i’n hadnodd mewnol. Mae moonoo wedi cyflawni rôl allweddol yn y broses o ddatblygu a defnyddio ein busnes marchnata symudol a feiral, ac o’r herwydd, mae’n gwneud synnwyr i ni ddwyn y busnes hwn i mewn i’n grwp er mwyn i ni allu ehangu gwasanaethau creadigol a dylunio allweddol er lles ein cleientiaid.

Dywedodd Nick Price o moonoo ‘’Mae’n wych ein bod bellach yn rhan o greenfield ac edrychwn ymlaen at greu’r cysyniadau dylunio a digidol a fydd yn ychwanegu at strategaethau marchnata ein cleientiaid, ac at ddatblygu syniadau ym maes animeiddio y bydd ganddynt apêl fyd-eang.”

Gyda phortffolio cleientiaid amrywiol sy’n cynnwys S4C, Setanta Sports, British Telecom, Principality, Land Rover a Guinness World Records, mae greenfield yn cynnig ystod o wasanaethau – o wasanaethau creadigol a chynhyrchu, ymgynghori busnes, i gynhyrchu print, ar-lein, radio a theledu, a meysydd twf cyffrous marchnata symudol a feiral.

Ymwelwch a wefan moonoo..


GWR book Llyfr Recordiau Byd Guinness yn torri ei recordiau ei hun

Mae Rhifyn 2008 Recordiau Byd Guinness yn torri ei recordiau ei hun o ran y ffigurau gwerthu yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.  Dros y bedair wythnos ddiwethaf, hwn fu’r llyfr y gwerthwyd y nifer mwyaf o gopïau ohono yn y DU, sy’n eithaf trawiadol, pan fyddwch yn ystyried y ffaith bod Llyfr Recordiau Byd Guinness wedi gwerthu dros 100 miliwn o gopïau ers ei lansio 53 o flynyddoedd yn ôl, ac mae’n cael ei werthu mewn dros 100 o wledydd a’i gyhoeddi mewn 24 o wahanol ieithoedd.

Eleni, ffilmiwyd yr hysbyseb teledu a sinema yn gyfan gwbl yng Nghymru gan y cwmni cynhyrchu o Gymru, greenfield, ac mae’n cynnwys Actor ifanc o Gymru, Josh Price, fel seren yr hysbyseb.  Yn yr hysbyseb, caiff Josh ei dynnu i mewn i’r llyfr ac mae’n hedfan mewn vortecs mewnol, ac yn cael ei dynnu tuag at rai o’r Recordiau Byd sy’n ei ddenu fwyaf, megis y llygaid sy’n sefyll allan fwyaf yn y byd, a’r blaned fwyaf yng nghysawd yr haul.

Dywedodd Kate White, uwch rheolwr brand gyda Recordiau Byd Guinness “Mae’n hollol wych ein bod wedi cyrraedd brig y rhestr am y bedair wythnos yn olynol.  Mae’n profi bod y llyfr yn parhau i fod yn hynod o boblogaidd ymhlith y gynulleidfa darged, bod y diddordeb, y swyn a’r chwilfrydedd y mae’r recordiau eu hunain yn eu creu ymhlith pobl ifanc mor real heddiw ag y mae wedi bod erioed.  Rydym wedi bod wrth ein bodd gyda’r ymateb i’r ymgyrch Teledu a Sinema a grëwyd gan greenfield, sy’n rhan fawr o’r rheswm pam bod ein cynulleidfa yn dymuno prynu copi o’r llyfr.  Mae wedi cyrraedd y nod”

Dywedodd Bethan Mair Tame, pennaeth gwasanaethau creadigol a chynhyrchu greenfield “Mae hwn yn newyddion gwych, ac rydym mor falch ein bod wedi bod yn rhan o’r digwyddiad hwn sydd wedi torri record.  Gwyddon pan wnethon ymateb i’r brîff bod ein syniad creadigol yn fformwla llwyddiannus ar gyfer y llyfr, ac roeddem yn hynod o falch pan gawsom ein dewis i greu’r hysbyseb.  I goroni’r cyfan, daethom o hyd i Josh, sydd wedi bod yn berl go iawn, ac ef yw seren y sioe.  Edrychwn ymlaen at yr wythnosau nesaf, a mawr obeithiwn y bydd y ffigurau gwerthu yn parhau i godi.”

PDF Cliciwch yma i gael PDF


Hot 100 Mae greenfield yn Boeth!

Mae greenfield media solutions ltd wedi llwyddo i gyrraedd rhestr 100 Cwmni Poethaf NEO (National Entrepreneurship Observatory) / Western Mail 2007.

Mae'r rhestr 100 cwmni yma yn ceisio darganfod rhai o fentrau ifanc mwyaf cyffrous Cymru ac yn dathlu y gorau o fentergarwch trwy nodi'r cwmnïau cychwynol sydd yn dangos y cynnydd mwyaf.

Medd Wyn Innes, Prif Weithredwr greenfield, "Mae hyn yn newyddion arbennig ac yr ydym yn falch iawn o gael ein cydnabod fel un o'r cwmniau blaengar sydd wedi mabwysiadu ysbryd mentergarwch ac sy'n yn rhan anatod o dwf economi Cymru heddiw.

"Cyfrinach ein llwyddiant hyd yma yw gwaith caled a'r diwylliant o fentro yr ydym yn meithrin o fewn y cwmni. Mae gennym dîm aruthrol o dalentog o fewn greenfield ac yr ydym yn ychwanegu at ein tîm i ddod a phobl sydd â syniadau ffres a phrofiad gwahanol. Mae hyn oll yn gwneud hi'n le deinamig i weithio ynddi, lle mae pob aelod o staff yn frwdfrydig i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaef i'n cleientiaid.

"Hoffwn ar ran yr holl dîm ddiolch i bob cleient sydd wedi rhannu yn ein lwyddiant. Yr ydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i barhau i ddarparu gwasanaethau marchnata a chyfathrebu perthnasol newydd ac arloesol yn y maes."

Dylunio gan Elfen
Cedwir pob hawl greenfield 2007

Ehangu Gorwelion