Cynllunio Cyfryngau

Er mwyn darparu gwasanaeth integredig llawn i’n cwsmeriaid, rydym yn cyfuno ein doniau creadigol a’n galluoedd cynhyrchu gyda gwasanaeth cynllunio a chyd-drafod arbenigol i sicrhau’r budd mwyaf o’r buddsoddiad.

Mae cynllun cyfryngau da yn sicrhau bod nodau ein cwsmer yn cael eu cyflawni trwy ganolbwyntio’n glir ar yr amcanion. Mae pob cyfrwng yn gweithio mewn synergedd i gyrraedd y bobl gywir yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol.

Rydym yn ymfalchïo ein bod yn cynnwys ffyrdd arloesol o gyrraedd cynulleidfaoedd targed ac ymgysylltu â hwy er mwyn gwneud gwahaniaeth pwysig i’r ffordd y mae brandiau yn cyfathrebu gyda’u cwsmeriaid.

Mae’r partneriaid cynllunio a phrynu cyfryngau rydym yn eu ffafrio yn caniatáu mynediad i offer ymchwil ac yn cynnig cyfraddau cyfryngau nad ydynt ar gael i gwsmeriaid yn uniongyrchol ac mae hynny’n rhoi mantais ddihafal i ni yn y farchnad.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â jim@greenfieldmedia.com