Mae'r cleientiaid yn ymddangos yn ôl trefn yr wyddor:
Noder os gwelwch yn dda: Bydd angen "Quicktime plugin" i wylio'r darnau ffilm yn yr adran hon.
Os nad yw hwn yn weithredol ar eich peiriant mae modd ei lawrlwytho am ddim trwy glicio yma.
![]() |
BTNoddwyr is-deitlau Pobol y Cwm ar S4C |
"Fel noddwr is-deitlau Pobol y Cwm - prif gyfres ddrama S4C - dewisom greenfield, yn unol â chyngor eraill, i gynhyrchu ein 'bachyn' noddi. Yn ein barn ni, roeddent yn greadigol, yn wybodus, yn broffesiynol ym mhob agwedd ar y trafod, ac o gymorth mawr trwy gydol y broses. Roeddem yn hynod o falch o'r gweithrediad creadigol ac rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan gwsmeriaid. Ni fyddem yn petruso cyn gweithio gyda nhw eto." - Owen. G. Evans, Pennaeth Polisi a Chyfathrebu Corfforaethol, BT Cymru / Wales
Cynhyrchodd greenfield hysbyseb teledu 20” ar gyfer Calon Wen, i lawnsio eu Eco – Pak, llaeth organig wedi ei becynnu mewn pecyn sy’n fwy caredig i’r amgylchedd na phecynnu arferol.
"Mae greenfield yn darparu gwasanaethau o'r radd flaenaf yn gyson, yn aml iawn i amserlenni tynn." - Jane Ostler, Pennaeth Marchnata, Digital UK
‘Vodcast’ i addysgu cwmniau ar y ffyrdd o leihau eu heffaith amgylcheddol drwy ddefnyddio dyfais ryngweithiol ar-lein Envirowise.
Darparodd greenfield syniadau creadigol a chynhyrchu hysbysebion sinema a theledu byd-eang ar gyfer ymgyrch y Guinness Book Of World Records 2008. Dangoswyd yr hysbysebion ar y teledu a mewn sinemâu dros y byd mewn nifer o wahanol iaith.
“Dyma’r flwyddyn gyntaf i Recordiau Byd Guinness weithio gyda greenfield a gwnaeth eu amgyffred manwl o’n brand argraff dda ar y tîm o’r dechrau. Ar ôl 5 mlynedd o roi’r gwaith allan i dendr, dyma’r asiantaeth gyntaf sydd wedi taro’r hoelen ar ei phen y tro cyntaf! Aeth greenfield ati i roi’r ymgyrch at ei gilydd mewn ffordd effeithiol ac effeithlon, mewn pryd ac o fewn y gyllideb, ac rydym yn teimlo’n hynod o gyffrous wrth i ni aros i weld yr ymateb i’r hysbysebion pan fyddant yn cael eu darlledu ar hyd a lled y wlad y mis nesaf.”
Kate White
Uwch Reolwraig Brand
Guinness World Records
Gwyliwch yr Hysbyseb (1.21mb)
Hysbyseb Teledu Ymateb Uniongyrchol I annog pobl sydd wedi talu ffioedd Cartref Gofal i gysylltu a Hugh James gan eu bod o bosib yn deilwng am ad-daliad ariannol.
Gwyliwch yr Hysbyseb (772k)
![]() |
Land RoverNoddwyr Cefn Gwlad ar S4C |
"Rydym wrth ein bodd â'r gwaith a wnaethpwyd gan greenfield ar gyfer ein hysbyseb deledu. Buont yn gweithio mewn ffordd broffesiynol a chyflym, gan gynnig y cyflenwad llawn o sgiliau: o'r golygu creadigol i'r materion cydymffurfio. Roedd cael siop-un-stop ar gyfer ein holl ofynion yn ased go iawn." - Alun Wright, Rheolwr Marchnata Rhanbarthol, Land Rover Link
"Mae profiad helaeth greenfield o'r farchnad gwerthiant rhaglenni rhyngwladol a'u dealltwriaeth o ymelwa a'r hawliau wedi bod yn bwynt allweddol yn ein penderfyniad i bartneri gyda greenfield mewn cysylltiad a'n Cynllun Datblygu Teledu-MIP." - Chris Moll, Prif Beiriannydd Cyllid, North West Vision
Mae greenfield ar hyn o bryd yn cynhyrchu holl hysbysebion teledu Ymateb Uniongyrchol Cymdeithas Adeiladu y Principality. Rydym
wedi cynhyrchu hysbysebion teledu ar gyfer Morgeisi Arbed Ffïoedd,
e-GYNILWR ac ISA, yn ogystal a phob sting nawdd cyfredol.
Darparodd Greenfield syniadau creadigol a chynhyrchu ar gyfer ymgyrch deledu genedlaethol i annog y cyhoedd i roi gwaed.
![]() |
Bwrdd yr IaithNoddwyr bwletinau Tywydd ar S4C |
"Mae greenfield yn dîm egniol iawn sydd yn gwrando ac yn deall anghenion y cwsmer. Maent yn creu gwaith creadigol da iawn ac yn berchen ar safonau cynhyrchu uchel. Un o'i prif rinweddau yw'r modd y maent yn meithrin perthynas agos a phroffesiynol gyda'r cwsmer - mae'n brofiad pleserus iawn cydweithio â nhw." - Lowri ap Robert, Arweinydd Uned Sector Preifat, Bwrdd yr Iaith
Avanti |
ITV |
Sunscoop Products Ltd Taylor & Taylor Advertising Thysen Krupp Elevator Ltd Toffoc True Taste Wales Wales Millennium Centre Welsh Assembly Government WDA Western Power |
Dylunio gan Elfen
Cedwir pob hawl greenfield 2007